Adfer, Ymlacio ac Ailgysylltu – Enciliad Lles 1

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - August 30, 2024 - September 1, 2024
4:00 pm - 5:30 pm

Cymerwch seibiant o fywyd bob dydd ac ewch i  Ynys Echni i ymegnio.

Hanfod yr encil hwn yw ein rhyddhau o’n bywydau a’n harferion beunyddiol a chymryd amser i ffwrdd i archwilio a chysylltu â natur.

Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan mewn dulliau symud fel ioga, Qigong, a dawns Rhyddid.  Gallwch hefyd roi cynnig ar rai arferion myfyriol sy’n cynnwys cysylltu â’n gwybodaeth fewnol, myfyrdod sain, cofnodi a gwaith anadlu.

Byddwn yn archwilio’r ynys ac yn mwynhau cymaint o weithgareddau y tu allan ag y mae’r tywydd yn caniatáu.  Byddwch yn dysgu technegau a sgiliau newydd i wella’ch lles mewn lleoliad grŵp bach cefnogol ac ymlaciol, gan gwrdd â ffrindiau newydd a chael hwyl ar hyd y ffordd.

Mae’r penwythnos yn addas i ddechreuwyr neu’r rhai sydd â phrofiad blaenorol gan y gellir addasu pob ymarfer i weddu i wahanol lefelau o brofiad. Dyna’i gyda sydd angen yw chi eich hun, meddwl agored a’r ewyllys i roi cynnig ar rywbeth newydd.


Manylion yr arweinydd
Kerry Sanson

Mae gan Kerry 23 mlynedd o brofiad fel iachawr a 13 mlynedd fel arweinydd ffitrwydd grŵp a hyfforddwr personol. Hi yw cydlynydd encil The Dreaming a mae hefyd yn cynnal gweithdai a dosbarthiadau rheolaidd o amgylch de Cymru. Kerry yw Awdur "The Book of Health Hacks".

Rhestr Cyfarpar
HANFODOL Mat ioga, blanced, cyfnodolyn a beiro. Dillad cynnes a dillad ymarfer corff cyfforddus. Esgidiau ymarfer, esgidiau cerdded, potel ddŵr.

Pris : £260




August 30, 2024 4:00 pm.

Rhannu:

Mwy