Mae Afon Taf ac Afon Elái ill dau wedi eu dynodi’n Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur. Maent yn goridorau bywyd gwyllt pwysig drwy’r ddinas a dylid cymryd gofal wrth lywio i beidio ag amharu ar y planhigion a’r anifeiliaid.
Rhywogaethau ymledol
Mae misglod rhesog a berdys marwol ym Mae Caerdydd. Mae’n debyg mai llong a oedd yn ymweld a ddaeth â’r rhywogaethau ymledol hyn i’r llyn dŵr croyw. Mae’r misglod rhesog yn atgynhyrchu’n gyflym a gallant beri trafferthion i gychod ac offer os nad ydych yn cymryd gofal priodol.
Gall berdys marwol achosi niwed ecolegol difrifol i ecosystemau dŵr croyw. Mae’n gyfrifoldeb ar holl ddefnyddwyr y Bae i’n helpu ni i atal y rhywogaethau hyn rhag ymledu ymhellach. Mae’n drosedd dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) i ganiatáu i’r rhywogaethau hyn i drosglwyddo i gorff arall o ddŵr a dylid cymryd pob cam posib er mwyn atal hynny rhag digwydd.
Mae canllaw ynghylch sut mae gwarchod llongau ac offer ac atal y rhywogaethau rhag ymledu ar gael yn: