Cerdded a beicio

Llwybr Bae Caerdydd
Mae’r llwybr cylchol ar gyfer beicwyr a cherddwyr yn 10 cilomedr (6.2 milltir) o hyd. Mae’n arwain o amgylch y Bae a throsodd at dref glan môr Penarth dros Bont y Werin, pont 140 metr o hyd sy’n cysylltu Penarth a’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Ar hyd y llwybr, cewch flas ar dreftadaeth gyfoethog Caerdydd, cewch weld adeiladau enwog megis yr Eglwys Norwyaidd, Canolfan y Mileniwm fyd enwog a’r Senedd, adeilad Llywodraeth Cymru. Mae’r caffis, bars a bwytai yn y Bae yn rhoi apêl unigryw, arbennig iddo.

Llwybr Arfordirol Morglawdd Bae Caerdydd >
Llwybr Arfordirol Morglawdd Bae Caerdydd
Gyda golygfa yn edrych tua Bae Caerdydd ac Aber Afon Hafren, mae llwybr braf y morglawdd yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Gellir cyrraedd un pen y Morglawdd o Benarth a’r pen arall o’r Eglwys Norwyaidd.
Mae’r llwybr yn arwain cerddwyr a beicwyr heibio lociau’r Morglawdd, pontydd, llifddorau a’r llwybr pysgod. Mae man chwarae i blant, caffis hufen iâ, cyfleuster chwaraeon AdiZone, Ardal Sglefrio ac arglawdd mawr deniadol sy’n llecyn perffaith ar gyfer picnic gyda theulu a ffrindiau.
Ewch ar daith gyfrifiadurol o Fae Caerdydd
Mae taith ryngweithiol 360° yn galluogi i chi grwydro Bae Caerdydd fel na wnaethoch o’r blaen. Cliciwch ar y labeli rhyngweithiol er mwyn mynd i mewn i adeiladau, megis Canolfan y Mileniwm, y Senedd a Techniquest, neu ewch i Gei’r Fôr-Forwyn a phiciad i mewn i’r Eglwys Norwyaidd.