Gan ddod â harddwch coetir gwyllt i Forglawdd Bae Caerdydd, bydd prosiect cyffrous gan Cadwch Gymru’n Daclus ac Awdurdod Harbwr Caerdydd yn bwrw gwreiddiau ger dŵr y gwenoliaid duon.
Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun 1 Chwefror ar ein Coedwig Fach, sef un o bump i godi yng Nghymru. Disgwylir i’r gwaith barhau am bythefnos.
Mae Coedwig Fach yn goetir brodorol, dwys sy’n cynnwys pedair haenen o goed, gan gynnwys coed canopi, isdyfiant, a haenen o brysglwyni. Yn ogystal â darparu hafan ddeniadol ar gyfer ieir bach yr haf, adar, gwenyn a mamaliaid bach, mae’r man gwyrdd yn helpu pobl i gysylltu â natur a’i mwynhau.
Cafwyd hyd i’r coed drwy Coed Cadw sy’n arbenigo mewn tyfu stoc tarddiad lleol, a gweithredir dull coedwigaeth Miyawaki o baratoi’r pridd er mwyn creu’r sefyllfa fwyaf naturiol posibl ar gyfer coed ifanc. Bydd yr ardal hefyd yn cynnwys llwybrau ac ystafell ddosbarth awyr agored lle y gall plant ddysgu am fflora a ffawna, a gall cymunedau lleol gymryd rhan mewn gweithgareddau,
Efallai nad yw Coedwigoedd Bach yn fawr (tua maint cwrt tennis), ond gall y buddion maent yn eu darparu i fywyd gwyllt, cymunedau a lles cyffredinol fod yn ddi-ben-draw.
Llun wedi’i gymryd cyn cyfyngiadau Covid-19.
Comments are closed.