Wrth agosáu at Gaerdydd, dylech ddefnyddio’r cyhoeddiadau canlynol:
- Siartiau’r Morlys 1182 a 1176 (sydd hefyd yn Nalen Hamdden Morlys Môr Hafren)
- Cyfarwyddiadau Hwylio’r Morlys – Peilot Arfordir Gorllewinol Cymru a Lloegr
Sylwch y gall y wybodaeth newid a dylai’r morwyr ddefnyddio pob cymhorthydd hwylio sydd ar gael iddynt.
Mae’n bwysig cadw golwg manwl am gychod sy’n agosáu at neu’n gadael dociau Caerdydd gan eu bod nhw’n rhwym i’w cynlluniau.
Dylech hefyd wrando ar:
- Radio Amledd Uchel Iawn (VHF), Sianel 68, South Wales Radio (Associated British Ports, Caerdydd) yn yr ardal hon.
Pan ydych yng ngham olaf cyrraedd Harbwr Allanol Bae Caerdydd, dylech alw
Rheoli’r Morglawdd Sianel 18 VHF er mwyn gofyn am gael locio.
Byddant yn rhoi gwybod i chi pan fydd y loc nesaf ar gael ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch dod i mewn i’r Harbwr Allanol a’r lociau. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, bydd angen cyfyngu mynediad i’r Harbwr Allanol.
Ewch i Locio Trwy’r Morglawdd am fwy o fanylion.