Cewch daith gyffrous ar gwch RIB, gweld golygfeydd trawiadol, fforio mannau cudd a chlywed hanesion Ynys Echni gan gast arbennig o gymeriadau difyr.
Bydd Spectacle Theatre yn chwarae hanesion cymeriadau megis Guglielmo Marconi a George Kemp ac yn rhoi syniad i chi o hanes Ynys Echni yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal ag adrodd chwedlau am yr ynys ers canrifoedd.
O harddwch y planhigion a’r creaduriaid anhygoel i’r barics Fictoraidd a’r bynceri rhyfel iasol, cewch ddysgu am dreftadaeth unigryw Ynys Echni trwy gyfrwng sioe ddifyr, ryngweithiol.
Manylion y Daith:
Dydd Sadwrn 17 Mehefin
Bydd y cwch yn gadael o swyddfa docynnau Bay Island Voyages yng Nghei’r Fôr-forwyn am 10.15am.
Dewch yno 30 munud cyn hwylio.
Bydd y cwch yn dychwelyd i Gei’r Fôr-Forwyn am tua 1.30pm.
Pris Tocynnau:
Oedolion £34
Plant £24 (7+oed, o leiaf 1.1m o daldra)
Teulu £105 (dau oedolyn a dau blentyn)
Mae pob tocyn yn cynnwys:
– Taith i’r ynys ac yn ôl i Fae Caerdydd mewn cwch RIB
– Taith theatrig y byddwch yn ymgolli ynddi ac a fydd yn cychwyn cyn i chi fyrddio’r cwch
– Digonedd o bethau annisgwyl ar hyd y daith!
Archebwch eich tocynnau nawr!
www.bayislandvoyages.co.uk/contact
Ffoniwch 07393 470476
“Roedd hi’n wych o’r ddeialog gyntaf un, ar hyd y daith wyllt i Ynys Echni a’r daith ddifyr. Cawsom hwyl gyda’r actorion a dywedon nhw hanes yr ynys wrthym mewn ffordd eglur a theimladwy.”
John Grimes, Caerdydd
Comments are closed.