Dihangwch o’ch byw-pob-dydd a dewch i fwynhau penwythnos llesol ar Ynys Echni.
Mae pob enciliad yn cynnwys:
- Taith ddwyffordd ar gwch rib.
- Sesiynau yoga, reiki, adweitheg a myfyrio ymlaciol.
- Bwyd a diod figan.
- Ystafell gysgu syml a rennir, neu wersyll.
I gofrestru eich diddordeb, darllenwch y telerau ac amodau a llenwch y fflurflen isod.
Byddwn yn penderfynu ar ddyddiadau newydd pan fydd hi’n saff gwneud hynny ac yn unol â chanllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru.
Telerau ac Amodau
– I allu mynd ar yr ynys, mae angen i ymwelwyr fod yn ddigon ffit ac abl i ddringo 40 o risiau a cherdded ar draeth cerigos.
– Nid yw’r enciliad yn addas i ferched beichiog a phobl gyda phoen cefn, poen gwddf neu anafiadau y gallant waethygu yn sgil symudiadau cyflym yn ystod y daith ar y cwch RIB.
– Bydd gofyn i chi lenwi ffurflen feddygol ymlaen llaw, a chaiff hon ei rhannu gyda’r therapyddion yn unig.
– Nid oes cyflenwad trydan na nwy ar yr ynys, a dylid defnyddio dŵr yn gynnil.
– Ni chaniateir cŵn ar yr ynys.
– Rhoddir ad-daliadau os caiff lleoedd eu canslo o leiaf 28 diwrnod cyn yr enciliad.
Cefnogir gan Raglen Datblygu Wledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Date/Time
Date(s) - 01/04/2020 - 31/10/2020
All Day
Location
Flat Holm Island
Comments are closed.