Adfywiwyd Bae Caerdydd fel cymysgedd o dai, mannau agored, masnach, hamdden a datblygiad diwydiannol sy’n atgyfnerthu ei gilydd. Cyfanswm rhagamcan cost y cynllun oedd £2.4 biliwn a chymhareb pwysau cyhoeddus/preifat o 1:2 H.y. roedd disgwyl i arian y llywodraeth atynnu dwbl y maint eto mewn buddsoddiad preifat.
Roedd rhai o lwyddiannau arwyddocaol y project yn cynnwys adeiladu Morglawdd ar hyd yr aber a chreu llyn dŵr croyw 200 hectar newydd; cartrefi newydd, gan gynnwys y rhai yng Nglanfa’r Iwerydd; swyddfeydd newydd, gan gynnwys Tŷ Cryg Hywel sydd nawr yn gartref i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Creodd y datblygiad gyfleusterau masnachol a hamdden, gan gynnwys y rhai yng Nghei’r Fôr-Forwyn ar lan y dŵr a Phentref Hamdden Glanfa’r Iwerydd (a elwir bellach Canolfan Red Dragon). Crëwyd llawer o swyddi hefyd yn rhan o’r project adfywio.
Daeth y Gorfforaeth Ddatblygu i ben ar 31 Mawrth 2000. Credwyd iddi lwyddo i gyflawni’r canlynol: