Diwrnod Marconi 2022

This event forms part of our National Lottery Heritage Fund project Flat Holm – A Walk Through Time

Date and Time
Date(s) - May 14, 2022
10:00 am-3:00 pm

Ar 14 Mai, 10am – 3pm, mae digwyddiadau Croesawu’r Wennol a Diwrnod Dathlu Marconi ym Mae Caerdydd

Mae’r digwyddiadau am ddim, sy’n cael eu cynnal ar Forglawdd Caerdydd, yn dathlu dychweliad y gwenoliaid du a gwaith Guglielmo Marconi rhwng arfordir Caerdydd ac Ynys Echni.

Bydd digon o weithgareddau i’w mwynhau ar y diwrnod, o deithiau tywys a chwisiau adar i gelf, crefftau a gêmau.

I ddathlu pen-blwydd neges ddi-wifr gyntaf Guglielmo Marconi dros ddŵr agored, bydd Cymdeithas Radio Amatur y Barri ar y safle i’ch helpu i anfon negeseuon ledled y byd. Ochr yn ochr ag ymchwilio i rai o eitemau’r ynys, gallwch hefyd ymweld yn rhithwir ag Ynys Echni tra’n sefyll ar Forglawdd Caerdydd.

Felly estynnwch eich adenydd a hedfan i lawr i Fae Caerdydd am ddiwrnod o hwyl am ddim.


Leader details

Kitlist

Price :




May 14, 2022 10:00 am.

Share news:

More news