Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed!
I ddathlu, mae’r cyhoedd yn cael cynnig cyfle i gael gwybod mwy am y bobl ‘Y Tu ôl i’r Bae’ mewn arddangosfa ffotograffiaeth arbennig a fydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd o ddydd Llun 26 Mai tan ddiwedd yr haf, cyn symud i’r Eglwys Norwyaidd.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys lluniau trawiadol y mae’r ffotograffydd teithio a dogfennol Nick Pumphrey wedi’u tynnu o staff sy’n gweithio i Gaerdydd i reoli’r gwaith o weithredu morglawdd Bae Caerdydd, sicrhau mordwyo diogel i gychod, monitro ansawdd dŵr, cysylltu â busnesau a chymunedau lleol, a gofalu am Warchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd ac Ynys Echni.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sy’n gyfrifol am Awdurdod Harbwr Caerdydd, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae Bae Caerdydd yn rhan mor fawr o’r ddinas ac mae’r tîm yn Awdurdod Harbwr Caerdydd wedi bod yn gweithio i Gaerdydd 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn am y 25 mlynedd diwethaf i’w reoli, ei weithredu a’i gynnal.
“Mae hynny’n rhywbeth sy’n werth ei ddathlu a byddwn yn annog pobl yn ystod blwyddyn y pen-blwydd hwn i edrych ‘Y Tu ôl i’r Bae’ ar y staff gweithgar sy’n helpu i wneud Bae Caerdydd yr hyn ydyw heddiw.”
Bydd dathliadau’r 25ain pen-blwydd yn parhau trwy gydol y flwyddyn a bydd hefyd yn cynnwys:
- cyhoeddi llyfr coffaol, sy’n ymchwilio i Awdurdod Harbwr Caerdydd yn y gorffennol a’r presennol, a fydd ar gael i’w ddarllen ar wefan Awdurdod yr Harbwr
- cystadleuaeth ‘Dylunio Baner Arth’ i blant oedran ysgol gynradd, gyda’r 25 cais buddugol yn cael eu harddangos yn y Bae yn ystod gwyliau’r haf
- cystadleuaeth Croeso Caerdydd gyda 25 o wobrau cyffrous sy’n gysylltiedig â’r Bae i’w hennill
- Bydd Lighthouse Theatre yn cynnal teithiau cychod a beicio Bae Caerdydd, ar thema pen-blwydd Awdurdod Harbwr Caerdydd.
- gwely blodau arddangos arbennig ar Forglawdd Bae Caerdydd, wedi’i blannu yn ôl dyluniad ’25’.
- cyfryngau cymdeithasol ar thema pen-blwydd ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Bae Caerdydd, sy’n cynnwys eiliadau ac atgofion arbennig y cyhoedd, proffiliau staff Awdurdod Harbwr Caerdydd, ffeithiau diddorol y Bae a mwy
- cyfres bodledu gyda chyn-staff yn cofio dyddiau cynnar AHC.
Bydd rhagor o fanylion yma toc!
April 1, 2025 11:58 am.
Rhannu: