Cyrraedd yma

Cyrraedd yma

Bus

Mae Bws y Bae (gwasanaeth 6) yn gweithredu gwasanaeth aml, cyflym ac uniongyrchol rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd saith diwrnod yr wythnos.

Train

Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gwasanaeth rheolaidd rhwng Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd yng nghanol y ddinas a Gorsaf Bae Caerdydd.

Car

I gyrraedd Bae Caerdydd yn y car, dilynwch yr arwyddion ar gyfer Bae Caerdydd.

O’r tu allan i Gaerdydd gallwch gyrraedd y Bae o draffordd yr M4.

Os ydych yn nesáu o’r gorllewin, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 33 a dilynwch yr A4232.

O’r dwyrain, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 29 a chymerwch y 3ydd allanfa oddi ar yr A48.

 

 

Parking

Maes parcio Morglawdd Bae Caerdydd (ochr Penarth)

Cod post: CF64 1TQ

Mannau parcio i bobl anabl: 7

Gwybodaeth am faes parcio’r morglawdd

Maes parcio Stryd Havannah (ger gwesty Voco St David’s)

Cod post: CF10 5SG

Mannau parcio i bobl anabl: 3

Gwybodaeth am faes parcio Stryd Havannah

Stryd Stuart yng Nghei’r Fôr-Forwyn

Cod post: CF10 5BZ

Mannau parcio i bobl anabl: 16

Gwybodaeth am faes parcio Stryd Stuart

Parcio Talu ac Arddangos Rhodfa’r Harbwr (ger yr Eglwys Norwyaidd).

Cod post: CF10 4PA

Mannau parcio i bobl anabl: Ar gael

Gwybodaeth am barcio ar Rodfa’r Harbwr

Maes parcio Stryd Pen y Lanfa (ger Canolfan Mileniwm Cymru)

Cod post: CF10 4PH

Mannau parcio i bobl anabl: 74

Gwybodaeth am faes parcio Stryd Pen y Lanfa

Mae amodau parcio arferol Bathodyn Glas yn berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth am barcio Bathodyn Glas, ffoniwch y llinell gymorth ar 029 2087 3232 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.30am-12pm).

Ar y dudalen hon
Gweler hefyd... Atyniadau Digwyddiadau