Awdurdod Harbwr Caerdydd
Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) yn gyfrifol am weithredu a chynnal a chadw Morglawdd Bae Caerdydd yn ogystal â rheoli llywio o fewn ffiniau’r Harbwr. Mae hefyd yn cynnal ansawdd dŵr o fewn Bae dŵr croyw 200 hectar, ac yn rheoli pob agwedd ar yr amgylchedd yn y Bae, yn monitro dŵr llawr, ac yn gweithredu safleoedd a chyfleusterau hamdden.
Ariennir AHC drwy grant a ddiogelir gan Lywodraeth Cymru a gytunir fesul pob tair blynedd.
Mae’r Awdurdod yn gwneud cyfraniad sylweddol at weledigaeth y Cyngor i Gaerdydd i gefnogi’r Rhaglen Llywodraethu. Gwneir hyn drwy ddatblygu Bae Caerdydd fel lleoliad dŵr rhyngwladol eithriadol, gan gynnig amgylchedd lle gall ymwelwyr a phobl leol fwynhau ystod eang o weithgareddau, chwaraeon a hamddena.
Mae gan AHC dri phrif nod:
- Cynnal a gwella amgylchedd rhagorol, cynaliadwy
- Cynnig cyfleusterau a gweithgareddau rhagorol i sicrhau bod gan Gaerdydd leoliad glannau dŵr o’r radd flaenaf
- Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i sicrhau hyder y cyhoedd a buddsoddwyr ym Mae Caerdydd
Y timau
Yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediadau dydd i ddydd y Morglawdd, gan gynnwys y lociau, y pontydd, y llwybrau dŵr a’r llwybr pysgod, mae’r tîm yn cynnwys gweithredwyr, rheolwyr y loc a pheirianwyr. Mae gweithwyr yn ystafell rheoli’r Morglawdd drwy’r dydd, bob dydd.
Mae tîm yr Harbwrfeistr yn gyfrifol am reoli’r holl swyddogaethau sy’n ymwneud â dyletswyddau statudol y Bae Mewnol, yr Harbwr Allanol ac afonydd Taf ac Elái gan gynnwys cyflwyno Hysbysiadau i Forwyr. Mae’r adran hon hefyd yn gweithio i sicrhau bod safonau glendid yn cael eu cynnal yn ardal y Bae drwy gasglu gwastraff a sbwriel.
Yn gyfrifol am reoli’r holl faterion sy’n ymwneud ag amgylchedd Bae Caerdydd, mae’r tîm yn monitro ac yn cynnal safonau ansawdd dŵr, yn ogystal â diogelu a gwella’r amgylchedd naturiol ac adeiledig.
Gan gysylltu â rhanddeiliaid a chwsmeriaid Awdurdod yr Harbwr, mae’r tîm hwn yn goruchwylio’r gwaith o gyflwyno rhaglenni a digwyddiadau addysgol yn y Bae a’r cyffiniau. Mae hefyd yn cynnal gweithgareddau marchnata a chyfathrebu, gan gynnwys hyrwyddo ar-lein drwy wefannau a’r cyfryngau cymdeithasol, a dosbarthu deunyddiau fel taflenni, mapiau a byrddau gwybodaeth gyhoeddus.