Ni chewch nofio heb awdurdod ym #MaeCaerdydd. Dyma pam:
Cynhyrchwyd Y Naid, ffilm newydd bwerus sy’n archwilio canlyniadau posibl neidio a nofio heb oruchwyliaeth, gan Theatr na nÓg, ar y cyd ag Awdurdod Harbwr Caerdydd ac Arts & Business Cymru.
Ymgysylltodd y grŵp theatr hefyd â 250 o ddisgyblion a 12 athro yn ysgolion Caerdydd drwy gynnal sesiynau Holi ac Ateb i ysgogi’r meddwl ar-lein gyda’r cast.
Mae’n siŵr y cytunwch chi gyda ni – nid yw neidio a nofio yn y Bae yn werth y risg.
Cadwch yn ddiogel, cadwch mas.
July 16, 2021 1:37 pm.
Rhannu: