Clymu ac angori
Drwy gydol y flwyddyn rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ym Mae Caerdydd ac ar draws y ddinas.
Mae Bae Caerdydd yn cynnig angorfeydd arhosiad byr neu dros nos, felly beth am ddod i Ŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd ym mis Gorffennaf, neu i Ŵyl yr Harbwr yn ystod gŵyl banc mis Awst?
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein hadran digwyddiadau sydd ar y gweill.
Angori am gyfnod byr i ymwelwyr
Mae Awdurdod yr Harbwr yn cynnig angorfeydd pontŵn arhosiad byr ar gyfer ymwelwyr yn yr Harbwr Mewnol, ar drefn y cyntaf i’r felin. Mae’r mannau’n agos i Roald Dahl Plass, o fewn y Dociau Sych.
Bydd rhaid i’r cychod ddangos tocyn dilys pan fyddan nhw wedi eu rhwymo.
Ar hyn o bryd, isafswm cost man pontŵn yw £2 am y ddwy awr gyntaf, a £1 yn ychwanegol am bob awr, am gyfnod o hyd at 24 awr. Mae defnydd o’r pontynau yn amodol ar delerau ac amodau sydd ar ddangos.
Nodwch: Ni chaiff dŵr na thrydan eu darparu.
Ar adegau, mae’n bosib y bydd cyfyngiad ar fynediad i’r pontynau oherwydd gweithgareddau a digwyddiadau yn y Bae.
Clybiau hwylio a marinas
Mae clybiau hwylio a marinas lleol hefyd yn cynnig angorfeydd i ymwelwyr arhosiad hir.