Datganiad Cydymffurfio
Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn cydymffurfio â’r safonau a nodir yng Nghod Diogelwch Morol y Porthladd.
Rydym wedi:
- Ymgynghori’n eang â defnyddwyr yr Harbwr ac adnabod y prif beryglon sy’n berthnasol i weithredu’r Harbwr. Rydym wedi blaenoriaethu a rhestru’r peryglon a sicrhau ein bod wedi gosod a chofnodi mesurau rheoli risg priodol.
- Nodi opsiynau pellach a’u gwerthuso er mwyn lleihau’r risg pan roedd yn ymddangos nad oedd y mesurau rheoli risg yn addas. Mae hon yn broses barhaus, ac rydym yn bwriadu cyflwyno unrhyw fesurau eraill sy’n briodol cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol.
- Cyflwyno system rheoli diogelwch. Mae hyn yn cynnwys polisïau ar gyfer cynlluniau argyfwng, cadwraeth, yr amgylchedd a rheoli gwasanaethau hwylio a morol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i adnabod, adolygu ac adwerthuso risg wrth ennill profiad gweithredol.
- Gwneud cynlluniau ar gyfer archwiliad gan berson annibynnol penodedig i gadarnhau mewn adroddiad bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â gofynion y Cod.
- Cyflwyno is-ddeddfau yr ydym yn eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn effeithlon.
- Cyhoeddi Polisi Diogelwch yr Harbwr (24KB PDF)
Is-ddeddfau
Mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan Adran 16 Deddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993 ac y mae nawr yn meddu arnynt yn ôl cytundeb a wnaed dan Adran 165 Deddf Cynllunio a Thir Llywodraeth Leol 1980, yn gwneud yr is-ddeddfau canlynol: