Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn troi’n 25 eleni. I ddathlu, hoffem i blant ysgol gynradd ddylunio poster sy’n dangos yr hyn y mae Bae Caerdydd yn ei olygu iddyn nhw.
Bydd y 25 poster buddugol yn cael eu harddangos ar hyd llwybr gerdded y Morglawdd yn ystod yr haf. Mae dros filiwn o bobl yn ymweld â’r Morglawdd bob blwyddyn, felly bydd eich gwaith celf yn enwog! Bydd gweddill y posteri sy’n cael eu cyflwyno’n cael eu harddangos ar ein gwefan neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cyfarwyddiadau ar gyfer baneri’r Bae – darllenwch yn ofalus cyn dechrau dylunio
Mae croeso i chi weithio ar eich pen eich hun neu gyda’ch dosbarth. Dyma rai ffeithiau am Fae Caerdydd i roi syniadau i chi ar gyfer eich llun:
- Bae mawr
Mae Bae Caerdydd yn 220 hectar o faint. Mae hynny’n fwy na 300 o gaeau pêl-droed! - Rheoli dŵr
Creodd y Morglawdd lyn dŵr croyw (y Bae), sy’n cael ei ategu gan afonydd Taf ac Elái. - Bywyd gwyllt bendigedig
Mae’r Bae yn gartref i lawer o adar a physgod gwahanol. Mae’n bwysig gofalu amdanynt. Efallai eich bod wedi bod yn chwilio am fywyd gwyllt yng Ngwarchodfa’r Gwlyptiroedd? - Chwarae plant
Mae’r Morglawdd yn cynnwys ardal chwarae, parc sglefrio a’r Crocodeil Enfawr, pob un yn cynnig golygfeydd hardd o’r Bae. Meddyliwch am y pethau hwyl y gallech fod wedi’u gwneud yno gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. - Gwaith caled
Mae staff yn gweithio drwy’r amser i sicrhau bod y Morglawdd yn gweithio’n iawn. Maen nhw’n agor ac yn cau’r pontydd, yn gadael cychod drwodd, ac yn cadw lefelau’r dŵr yn gywir. Gall gormod o ddŵr achosi llifogydd, ac nid yw rhy ychydig o ddŵr yn dda i’r anifeiliaid. - Glanhau
Nid yw pawb yn gofalu am ein hafonydd. Mae staff yn defnyddio cychod arbennig i gasglu sbwriel o’r afonydd ac ailgylchu cymaint ag y gallant. Po leiaf o sbwriel y mae pobl yn ei daflu, y glanaf fydd y Bae ar gyfer bywyd gwyllt. - Hwyl dŵr
Yng Nghanolfan Hwylio Caerdydd ar y Morglawdd a Chanolfan Rhwyfo Caerdydd yng Nghanolfan Hamdden Trem y Môr, gallwch ddysgu a rhoi cynnig ar wahanol chwaraeon dŵr. - Digwyddiadau cyffrous
Mae’r Bae yn cynnal llawer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Parc Hwyl i’r Teulu Bae Caerdydd, Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd, a Hanner Marathon Caerdydd. - Dwlu ar ddysgu
Mae’r Bae yn lle gwych i ddysgu. Efallai eich bod wedi ymweld gyda’ch ysgol neu eisiau gwneud hynny. Gallwch ddysgu am hanes yr ardal a sut rydym yn gofalu am yr amgylchedd.
Cyfarwyddiadau cystadlu
- Mae croeso i chi lunio baneri â llaw neu eu creu’n ddigidol.
- Dylai eich llun fod ar dudalen A4 â gogwydd tirlun, a dylech ei gyflwyno mewn fformat PDF neu JPEG eglur iawn.
- E-bostiwch eich dyluniad (dylid sganio ceisiadau wedi’u darlunio â llaw), gydai’r deitl, eich enw ac enw’ch ysgol, i: HarbwrCaerdydd25@caerdydd.gov.uk.
Gair o gyngor
Rydyn ni’n chwilio am ddyluniadau bywiog a lliwgar a fydd yn sefyll allan.
Dyddiad cau
E-bostiwch eich baneri erbyn dydd Gwener 23 Mai.
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld eich baneri anhygoel! Pob lwc!
February 19, 2025 3:08 pm.
Rhannu: