Cymdeithas Seryddiaeth Caerdydd: Smotiau haul, machlud haul a gwylio’r sêr

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - July 13, 2024-July 14, 2024
10:30 am-11:00 am

Mae llawer o bobl yn byw mewn ardaloedd sydd â llawer iawn o lygredd golau sy’n eu hatal rhag gweld yr wybren yn y nos a’r Llwybr Llaethog yn ei holl ogoniant. Mae Ynys Echni i ffwrdd o lawer o’r llygredd golau hwn ac mae’n caniatáu i arsylwyr weld llawer mwy o’r wybren nag y byddent gartref.  Yn y digwyddiad hwn bydd gennych seryddwyr profiadol a gwybodus wrth law i’ch tywys drwy’r amrywiaeth eang o gytserau, sêr a phlanedau (y lleuad hefyd). Does dim angen profiad, dim ond bod yn barod i gael eich syfrdanu gan yr hyn sydd i’w weld yn yr awyr dros Gymru. Bydd rhai telesgopau ar gael i’r rheini sy’n dymuno edrych yn agosach ar ein cymdogion nefol.

Yn ogystal, yn ystod y dydd byddwch yn gallu gweld ein seren agosaf yn ddiogel, yr haul. Mae gan Gymdeithas Seryddol Caerdydd sawl telesgop sydd wedi’u cynllunio a’u haddasu yn arbennig i edrych ar yr haul yn ddiogel. Os bydd y tywydd yn caniatáu, cewch weld smotiau haul ac ambell i fflach efallai.

Mae ein prisiau’n cynnwys:

  • Trafnidiaeth cwch dwyffordd, darparwyd gan Bay Island Voyages: Homepage – Bay Island Voyages.
  • Llety
  • Hyfforddiant / gweithgareddau a gynhelir gan diwtoriaid profiadol neu ein staff ar yr ynys.

Mae unrhyw incwm dros ben yn mynd yn ôl i gynnal treftadaeth naturiol ac adeiledig yr ynys.


Manylion yr arweinydd
Phil Wallace Cardiff Astronomical Society

Rhestr Cyfarpar
Rhestr Pecyn Hanfodol: Dillad cynnes a meddwl chwilfrydig Dymunol: Binocwlars o ansawdd da

Pris : WEDI GWERTHU ALLAN!




July 13, 2024 10:30 am.

Rhannu:

Mwy