Gwyl Bwyd a Diod Caerdydd

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - July 5, 2024-July 7, 2024
All Day

Bydd Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn cael ei chynnal yn Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd, y penwythnos hwn.

Gydag amrywiaeth wych o gynnyrch o safon ar gael gan stondinwyr yn Ffair y Cynhyrchwyr a Marchnad y Ffermwyr ac arlwywyr yn coginio amrywiaeth eang o fwyd blasus a baratowyd yn ffres ar y Maes Bwyd Stryd, mae’n sicr o fod yn ddigwyddiad sy’n cynnig blasau anhygoel!

Hefyd, ochr yn ochr â’r holl fwyd a diod gwych, bydd gan y Llwyfan Bandiau raglen lawn o gerddoriaeth fyw trwy gydol yr ŵyl, a draw ym Marchnad y Crefftwyr, mae detholiad gwych o nwyddau wedi’u gwneud â llaw, wedi’u curadu gan Craft*folK.

Mynediad am ddim | Nid oes angen tocyn

Dydd Gwener: 12.00pm – 22.00pm*
Dydd Sadwrn: 11.00am – 22.00pm*
Dydd Sul: 11.00am – 19.00pm

*Mae’r Maes Bwyd Stryd a’r Bariau ar agor tan 22.00pm, tra bod Ffair y Cynhyrchwyr a Marchnad y Ffermwyr yn cau am 21.00pm a stondinau masnach yn cau am 19.00pm.

Rhagor o wybodaeth yma: www.croesocaerdydd.com/bwyd-diod/

 


Manylion yr arweinydd

Rhestr Cyfarpar

Pris :




July 5, 2024 12:00 am.

Rhannu:

Mwy