Dyma weithdrefn cau’r morglawdd:
- Dylai cychod dyfnach na 2.0m gysylltu â Rheoli’r Morglawdd ar Sianel 18 VHF gyda digon o amser o flaen llaw cyn cyrraedd y Morglawdd.
- Bydd lociau tuag allan yn digwydd ar yr awr a hanner awr wedi pob awr. Bydd y lociau mewnol yn digwydd am chwarter wedi a chwarter i bob awr.
- Gofynnwch am gael dod i mewn neu fynd allan trwy’r lociau drwy Sianel 18 VHF. Rydym yn cadw cofnod o ohebu yng ngorsaf VHF Rheoli’r Morglawdd am resymau gweithredol, hyfforddi, ac iechyd a diogelwch.
- Gwrandewch ar Sianel 18 VHF am gyfarwyddiadau ynghylch dod i mewn i’r loc. Cadwch olwg ar yr arwyddion golau sy’n dangos ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir, a chydymffurfiwch â hynny.
- Ewch i mewn i’r loc ac angori cyn belled ymlaen â phosib ar y gleter gan ddefnyddio’r clustogau a llinellau clymu addas. Defnyddiwch o leiaf ddwy raff, ar y blaen a’r cefn, a diffoddwch eich injan. Mae’n bosib y bydd angen i chi rafftio at gwch arall, ac oherwydd hyn, byddai o fantais i chi osod rhaffau a chlustogau ar ddwy ochr eich cwch.
- Yn y Bae ei hun, dylai morwyr wrando ar Sianelau 16 a 18 VHF.
- Dylai cychod sy’n gadael y Bae fonitro Sianel VHF a Sianel 68 South Wales Radio pan fyddant wedi gadael yr Harbwr Allanol.