Ynys Echni

Manylion gwestai

Diolch am eich ymholiad archebu. Rydym wedi cadw lle i chi. Nawr cwblhewch y manylion personol canlynol a ffoniwch Swyddfa Awdurdod Harbwr Caerdydd ar 02920 877900 i wneud taliad ar gyfer eich digwyddiad trwy ein llinell dalu ddiogel.

NODWCH NAD YW EICH ARCHEB WEDI’I CHADARNHAU’N LLAWN NES EIN BOD WEDI DERBYN EICH MANYLION A’CH TALIAD.
Os na fyddwn yn clywed gennych o fewn 5 diwrnod gwaith efallai y bydd eich lle yn cael ei roi i ymholwr arall.

    Cyflyrau meddygol

    Sylwch, o dan delerau ein contract gyda chi, mae gennym gyfrifoldeb i rannu unrhyw gyflyrau meddygol sylfaenol, meddyginiaethau neu ofynion gyda staff a gwirfoddolwyr yr ynys yn ogystal â gweithredwr y cwch, Bay Island Voyages. Trwy ddarparu'r wybodaeth isod, rydych yn cadarnhau eich bod yn ymwybodol y byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'r sefydliad perthnasol.

    Am fwy o wybodaeth am bolisi preifatrwydd Bay Island Voyages, gweler Ymwadiad a Thelerau ac Amodau Bay Island Voyages.

    Byddwch mewn lleoliad anghysbell. Er bod ein staff wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf ac mae gennym weithdrefn gadael mewn argyfwng, gall gymryd mwy o amser i'r gwasanaethau brys eich cyrraedd nag ar y tir mawr.

    A oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol y mae angen i arweinydd y grŵp neu weithredwr y cwch fod yn ymwybodol ohonynt?

    Gofynion deietegol neu alergeddau

    Sylwer, bydd eich gofynion deietegol neu alergeddau yn cael eu rhannu gyda staff a gwirfoddolwyr yr ynys er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn bwydydd sy'n bodloni eich gofynion personol, athronyddol ac iechyd. Mewn argyfwng, lle mae bygythiad i'ch cyfanrwydd corfforol neu eich bywyd a'ch bod yn gorfforol neu'n gyfreithiol yn methu rhoi caniatâd, byddwn yn prosesu eich data mewn ffordd sydd yn angenrheidiol i sicrhau eich lles corfforol hanfodol.

    Ffotograffau a fideos ar gyfer gwerthuso, marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol:

    Fel rhan o broses gwerthuso'r prosiect, hoffem dynnu ffotograffau a gwneud fideos o'r digwyddiad hwn i'w rhannu gyda'n noddwyr yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. O bryd i'w gilydd, hoffem ddefnyddio ffotograffau a fideos o'r digwyddiad hwn fel rhan o'n hymgyrchoedd marchnata parhaus. Hoffem ddefnyddio ffotograffau a fideos o ddigwyddiadau i arddangos ein gwaith i'n dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Gweler y polisïau preifatrwydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth:

    View Gweler polisi preifatrwydd Facebook

    View Gweler polisi preifatrwydd Instagram

    View Gweler polisi preifatrwydd Twitter

    Dewiswch isod i roi neu wrthod cydsyniad. Gallwch dynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni ar e-bost flatholmproject@cardiff.gov.uk.

    Gweld hefyd