Mae rhywogaeth brin o chwilen sy’n bwyta croen wedi ei chanfod yn byw ychydig filltiroedd oddi ar arfordir Caerdydd, ar yr anghysbell Ynys Echni, ac mae gwyddonwyr yn credu mai dyma o bosib gadarnle olaf y rhywogaeth yn y DU.
Wedi’i darganfod gan dîm o ecolegwyr o Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru, dyma’r tro cyntaf i chwilen Dermestes undulatus gael ei chofnodi yng Nghymru, ac nid oes un wedi’i chofnodi yn Lloegr ers 2020.
Dywedodd Sarah Morgan, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Ynys Echni: “Dyw hyn ddim ar gyfer y gwangalon, ond mae’r chwilen fach yma yn bwydo ar groen, ffwr ac esgyrn anifeiliaid marw – ystyr Dermestes yn llythrennol yw bwytäwr croen. Maen nhw’n dipyn o boen gyda chasgliadau amgueddfeydd, ond maen nhw’n hynod ddefnyddiol mewn gwyddoniaeth fforensig i helpu i benderfynu pa mor hir mae corff wedi bod yn ei le.
“Mae sut y cyrhaeddodd y chwilen yr ynys yn dipyn o ddirgelwch, o gofio eu bod nhw’n ymddangos i fod yn hollol absennol o’r tir mawr erbyn hyn, ond mae’n bosib iddyn nhw gael eu cludo draw gan wylanod yn cario gweddillion anifeiliaid.
“Heb y tîm yng Nghanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru, efallai na fyddwn ni erioed wedi gwybod am y chwilod, felly mae’n rhaid diolch yn fawr iawn iddyn nhw.”
Roedd darganfyddiadau nodedig eraill yn ystod bioblitz yr ynys yn cynnwys Cloronen Aeron Coch brin, ffyngau cwpan microsgopig, gwyfynod bach sy’n byw y tu mewn i goesynnau rhedyn, a’r Gem Pres Gloyw, gwyfyn sydd â chuddliw rhyfeddol o effeithiol.
Dwedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: “Roedden ni eisoes yn gwybod bod Ynys Echni yn hafan i fyd natur – hi oedd yr ynys gyntaf yng Nghymru i ennill statws Caru Gwenyn, mae’n gartref i nythfa o wylanod cefnddu lleiaf, yn ogystal â nadroedd defaid, cennin gwyllt a llawer mwy – ond gydag ymchwil ddiweddar yn dangos bod un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu, mae’r darganfyddiad newydd hwn yn ei gwneud hi’n bwysicach fyth ein bod yn parhau â’n gwaith i ddiogelu a gwarchod cynefin unigryw’r ynys.”
Mae’r bioblitz yn rhan o’r prosiect Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Dermestes undulatus (credyd George Tordoff)
October 3, 2023 2:42 pm.
Rhannu: