Cyrraedd a gadael Harbwr Caerdydd
Wrth agosáu at Gaerdydd, dylech ddefnyddio’r cyhoeddiadau canlynol:
- Siartiau’r Morlys 1182 a 1176 (sydd hefyd yn Nalen Hamdden Morlys Môr Hafren)
- Cyfarwyddiadau Hwylio’r Morlys – Peilot Arfordir Gorllewinol Cymru a Lloegr
Sylwch y gall y wybodaeth newid a dylai’r morwyr ddefnyddio pob cymhorthydd hwylio sydd ar gael iddynt.
Mae’n bwysig cadw golwg manwl am gychod sy’n agosáu at neu’n gadael dociau Caerdydd gan eu bod nhw’n rhwym i’w cynlluniau.
Dylech hefyd wrando ar: Radio Amledd Uchel Iawn (VHF), Sianel 68, South Wales Radio (Associated British Ports, Caerdydd) yn yr ardal hon.
Pan ydych yng ngham olaf cyrraedd Harbwr Allanol Bae Caerdydd, dylech alw Rheoli’r Morglawdd Sianel 18 VHF er mwyn gofyn am gael locio.Byddant yn rhoi gwybod i chi pan fydd y loc nesaf ar gael ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch dod i mewn i’r Harbwr Allanol a’r lociau. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, bydd angen cyfyngu mynediad i’r Harbwr Allanol.
Ewch i Locio Trwy’r Morglawdd am fwy o fanylion.
Dod i mewn i Fae Caerdydd yn ystod y dydd
- Wrth ddod i mewn o’r de, mae’r Bwi RANIE (marc llorweddol chwith) yn dangos pa mor bell mae’r creigiau a’r tywod yn cyrraedd oddi ar Drwyn Larnog.
- Mae Bwi DE CAERDYDD (ban y de) yn dangos pa mor bell tua’r de y mae Tiroedd Caerdydd yn estyn.
- O leoliad rhwng y ddau fwi, ewch tua BWI ALLANOL CEFN-Y-WRACH (ban y gorllewin).
- Dilynwch Sianel Cefn-y-Wrach ac yna’r sianel fechan gyda bwis i mewn i Harbwr Allanol Bae Caerdydd.
Dod i mewn i Fae Caerdydd yn ystod y nos
- Wrth ddod o gyfeiriad y de, ewch tua’r chwith o Fwi RANIE (FL(2)R.5s) a thua’r dde o Fwi DE CAERDYDD (FLQ(6) + LFL.15s).
- Llywiwch tua BWI ALLANOL CEFN-Y-WRACH (FLQ (9) 15s). Byddwch yn gweld GOLEUADAU’R SECTOR ar gyfer Sianel Cefn-y-Wrach (Oc 10s WRG).
- Pan fyddwch wedi mynd heibio BWI ALLANOL CEFN-Y-WRACH, chwiliwch am OLAU’R SECTOR tua 298°T (Dir LFL. WRG. 5s), sy’n dangos y sianel fechan i’r chwith.
- Dilynwch y sianel gyda’r bwis i mewn i Harbwr Allanol Bae Caerdydd.
NODWCH: Dylai cychod sy’n dod o Kings Road (Avonmouth) ddod i mewn i Sianel Cefn-y-Wrach o gyfeiriad y de.
Am fwy o wybodaeth ynghylch goleuadau traffig ar y fraich allanol, ewch i Goleuadau ac arwyddion
Mynediad yn ôl y llanw
Dan amgylchiadau arferol, mae mynediad llanwol llawn yn bosib i gychod llai na 2.0 metr o ddyfnder. Fodd bynnag, ar adegau bydd gwaddodion yn yr Harbwr Allanol yn cyfyngu mynediad.
Gellir canfod gwybodaeth gan Reoli’r Morglawdd os oes angen.
O bryd i’w gilydd, mae’n bosib y bydd cyfyngiadau ar locio yn sgil y diffyg llif dŵr i mewn i Fae Caerdydd o afonydd Taf ac Elái. Cyhoeddir y cyfyngiadau hyn, y gellir eu gosod ar fyr rybudd, ar radio VHF, ac mae’n debygol y bydd hyn ar adeg llanw uchel.
Os yw’n debygol y bydd cyfyngiadau tymor hir, rhoddir gwybod i’r morwyr mewn Hysbysiadau lleol i forwyr
Bydd lociau tuag allan yn digwydd ar yr awr a hanner awr wedi pob awr. Bydd y lociau mewnol yn digwydd am chwarter wedi a chwarter i bob awr.