Llywio Bae Caerdydd
Wrth i chi gyrraedd Bae Caerdydd, ar ôl mynd drwy’r lociau, cewch eich hun mewn amgylchedd dŵr ffres nad yw’n llanwol sy’n cael ei ailgyflenwi gan afonydd Taf ac Elái.
Y tirnodau a welwch yn syth yw Marina Cei Penarth i’r chwith ac Afon Elái o’ch blaen. Wrth i chi ddod mewn i’r Bae byddwch yn nodi Clwb Hwylio Bae Caerdydd ar y pentir ychydig i’r dde.
Terfyn cyflymder
Y terfyn cyflymder ar gyfer harbwr mewnol Bae Caerdydd yw uchafswm o 5 not.
Mae’r terfyn 5 not hefyd yn berthnasol i gychod sy’n defnyddio Afon Taf.
Caniateir i gychod cludo teithwyr sy’n drwyddedig gan Awdurdod yr Harbwr deithio ar uchafswm o 7 not ar Afon Taf. Y terfyn cyflymder ar gyfer pob cwch arall sy’n defnyddio Afon Taf yw 5 not.
Cyfyngiadau cyflymder dros dro
Nodwch, yn ystod digwyddiadau dŵr, gellir sefydlu cyfyngiadau cyflymder dros dro ledled y Bae. Hysbysir y rhain drwy Hysbysiadau lleol i forwyr yn ogystal â gan staff Awdurdod yr Harbwr sy’n rheoli’r digwyddiad.
Lefel a dyfnderoedd y Bae
Cyfeirir at lefelau dŵr yn y Bae (uchder arwyneb y dŵr) at y Datwm Ordnans, ac yn gyffredinol fe’u rhoddir fel uchder uwchben y datwm hwn – UDO. Gall y lefelau amrywio o 4.0m a 7.5m UDO Gellir cael gwybod y lefel unrhyw bryd gan Reoli’r Morglawdd.
Yn gyffredinol, mae dyfnder y dŵr ym Mae Caerdydd yn 2.5 metr neu fwy. Dylid bod yn ofalus wrth lywio o amgylch ardal y gwlypdiroedd ger Gwesty Dewi Sant lle mae marciau ochrol ar y chwith yn dangos dŵr diogel.
Mae hwylio yn y Bae ei hun yn gymharol ddiffwdan. Fodd bynnag, dylai morwyr nodi y dylai cychod gadw at ochr gywir Marc Ban y Gorllewin oherwydd ei bod hi’n bosib bod lli cryf o flaen llifddorau’r morglawdd.
Dylai morwyr hefyd fod yn ymwybodol bod yr ardal sy’n uniongyrchol i lawr yr afon o’r llifddorau y tu allan i’r morglawdd yn barth gwahardd gan fod llifau uchel yn peri risg iechyd a diogelwch difrifol. Ni ddylai morwyr fynd i’r ardal hon o dan unrhyw amgylchiadau.
Afon Elái
Mae terfyn cyflymder o 5 not ar gyfer Afon Elái.
Byddwch yn ofalus wrth fynd o dan bontydd, a chadwch olwg am gychod padlo a llongau sy’n dod o ardaloedd angori.
Pontydd
Pont y Werin
Lleolir Pont y Werin tua hanner ffordd ar hyd angorfa Marina Caerdydd.
Mae’r bont yn rhychwantu afon Elái, gan gysylltu Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae’r rhan ganol yn codi i gychod fynd heibio. Rheoli’r Morglawdd sy’n rheoli’r bont, a gellir cysylltu â nhw ar Sianel VHF 18.
- Gall cychod fynd dan y bont pan mae hi’n isel os oes digon o le rhwng ei gwaelod a phen uchaf y cwch.
- Pan mae’r tri golau coch wedi diffodd bob pen i’r bont, gallwch deithio ymlaen. Meistr y cwch fydd bob tro yn penderfynu teithio ymlaen ai peidio. Mae byrddau uchdwr cychod ar ddwy ochr y bont (gydag ac yn groes i’r lli) er mwyn helpu’r morwyr benderfynu mynd oddi dani ai peidio.
- Mae golau oren dan y rhan sy’n codi yn y nos er mwyn cadarnhau ei bod ar gau.
- Wrth baratoi agor neu gau’r bont, bydd y golau ar naill ochr i’r sianel (gydag ac yn groes i’r lli) yn goch cyson – yn dweud na ddylai cychod deithio ymlaen.
- Bydd y goleuadau hwylio’n fflachio’n goch os oes angen ymateb brys (gwrandewch ar Sianel VHF 18).
Mae lifft wedi’i amserlennu ar waith i helpu morwyr i gynllunio’n effeithiol ar gyfer locio allan o Forglawdd Bae Caerdydd.
Mae’r amserlen, sydd ar sail cais drwy VHF 18, fel a ganlyn:
Codi am bum munud heibio’r awr
Codi am 25 munud i’r awr
Cynghorir morwyr i roi rhybudd da i Reoli Morglawdd o’u bwriad i lywio o dan y bont, fel y gellir cynllunio’r lifft yn ystod cyfnodau prysur o weithredu.
Gofynnir hefyd i Forwyr gadw golwg ar VHF 18 bob amser, rhag ofn y bydd angen eu hysbysu am unrhyw newid i’r amserlen.
Yn ogystal, dylai morwyr fod yn wyliadwrus o draffig dwyffordd ar yr afon tra’n mynd heibio’r bont ar ei hyd, a bod yn barod i dderbyn cyfarwyddyd gan staff Rheoli’r Morglawdd drwy VHF 18.
Gellir cael y wybodaeth ddiweddaraf gan Reoli’r Morglawdd ar 029 2070 0234 neu ar Sianel VHF 18.
Pont Gainc Cogan
Mae pont ffordd Cainc Cogan nepell o Bont y Werin. Mae’n bosib i gychod bychain hwylio ymhellach i fyny’r llif, ond dylech fod yn wyliadwrus iawn o uchdwr eich cwch. Mae Pentref Morol Caerdydd tua 1.5 milltir i fyny’r lli o aber yr afon, fymryn heibio Pont Heol Penarth.
Afon Taf
Mae terfyn cyflymder o 7 not ar gyfer llongau cludo teithwyr trwyddedig Awdurdod yr Harbwr ar Afon Taf. Y terfyn cyflymder ar gyfer pob cwch arall sy’n defnyddio Afon Taf yw 5 not.
Wrth lywio ar Afon Taf dylech fod yn ofalus wrth fynd dan bontydd. Gall llif yr afon fod yn gyflym iawn.
Pontydd
Pont Ffordd Gyswllt Butetown
Wrth i chi deithio i fyny’r afon, mae pont ffordd Gyswllt Butetown wedi’i marcio’n glir ar y naill ochr a’r llall gan farcwyr chwith a de. Nid oes unrhyw fwâu eraill yn fordwyadwy.
Byddwch yn ymwybodol o ganŵod a rhwyfwyr yn yr ardal hon. Gall ôl eich llong effeithio’n fawr ar gychod sgwlio ysgafn, felly byddwch yn ofalus. Mae’n debygol y bydd traffig afon arall yn yr ardal hon hefyd.
Pont Stryd Wood
Mae dyfnder y dŵr y tu hwnt i bont Stryd Wood yn llai nag 1.5m mewn nifer o fannau, ac nid yw’n ddoeth llywio bad pleser y tu hwnt i’r bont hon.