Diweddariad COVID-19 (Coronafeirws)
Oherwydd y cyfyngiadau ar symudiadau staff a’r mesurau rheoli sydd nawr ar waith, efallai y bydd rhai o weithdrefnau amgylcheddol Awdurdod yr Harbwr yn cael eu hatal dros dro.
Mae Awdurdod yr Harbwr yn cyflawni ystod o ddyletswyddau yn unol â gofynion Deddf Morglawdd Bae Caerdydd a deddfwriaeth amgylcheddol arall. Mae’r rhain yn cynnwys monitro a chynnal safon cyflwr y dŵr a gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol ac adeiledig.
Mae Awdurdod yr Harbwr wedi derbyn achrediad amgylcheddol ISO14001, sy’n dangos ymrwymiad i ostwng effaith projectau a gweithrediadau ar yr amgylchedd. Mae’r tîm amgylcheddol yn rheoli’r holl faterion sy’n berthnasol i’r amgylchedd ym Mae Caerdydd.
Gallwch lawrlwytho Datganiad Polisi Amgylcheddol Awdurdod Harbwr Caerdydd.
Rhowch wybod am broblemau amgylcheddol drwy ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru (24 awr) ar 0300 0653000.